Er i ni ysgrifennu llyfr yngl?n â SEO sy’n cynnwys dros 300 o dudalennau, dim ond dwsin o dudalennau sydd eu hangen arnoch i ddeall sut y gellir defnyddio SEO ar gyfer blog. Pam? Wrth i chwilio ddod yn haws, mae Google a pheiriannau chwilio eraill yn casglu mwy o ddata, sy’n eu galluogi i argymell a graddio blogs yn seiliedig ar ba raddau y mae pobol yn ymddiried yn y blogs hynny.
Mae gan beiriannau chwilio ystod eang o fesuryddion ymddiriedaeth ar gyfer blogs. Mae Google yn gwybod llawer iawn mwy na’r disgwyl am eich blog. Sylwch, mae’r canlynol yn perthyn i Google…
Mae Google yn casglu data gan filiynau o gyfrifon Google bob diwrnod
Os bydd defnyddiwr Google yn tanysgrifio i’ch blog, i ba raddau gall Google ymddiried yn y person hwnnw gan dderbyn eu sylw a’u tanysgrifiad? Pryd y bu iddynt ymaelodi? Pa mor aml mae defnyddwyr yn defnyddio eich safle? Pa safleoedd eraill a ddefnyddir ganddynt? A ydynt yn defnyddio’r ebost yn gyson?
Os yw blog arall yn cysylltu â chi, i ba raddau y dylai Google ymddiried yn y cyswllt hwnnw fel modd o gynorthwyo’ch safle i gael gwell gradd. A oes yna unrhyw flogiau poblogaidd a diogel yn cysylltu â’r safle hwnnw. Faint o bobl sy’n tanysgrifio i’r llwybr RSS.
Tra bo gwasanaethau fel Bloglines neu MyBlogLog yn medru ateb rhai o’r cwestiynau hyn, gall Google eu hateb yn fwy cywir nag unrhyw gwmni arall.
Yn ychwanegol i’r data uchod, mae Google yn gwybod beth yw oed eich safle, sut y buoch yn datblygu cynnwys ac i ba raddau y mae eich proffil cyswllt wedi tyfu.
Mae SEO ar gyfer blog yn wahanol i SEO ar gyfer y rhan helaeth o wefannau eraill, yn bennaf oherwydd yr elfennau cymdeithasol ynghlwm â thechnoleg blogio. Nid prynu cyswllt neu dwyllo gyda thechnoleg chwilio annigonol yw pwrpas SEO ar gyfer blogs. Yn hytrach, mae SEO ar gyfer blogs yn canolbwyntio ar roi testun sgwrs i bobol a chreu rhywbeth sy’n haeddu sylw.
Mae gwasanaethau fel TypePad, Blogger, a WordPress.com yn eich galluogi i gynnal eich safle fel is-barth o’r safleoedd hynny. PEIDIWCH â gwneud hynny. Mae rhai o’r gwasanaethau hynny yn cynnig nodweddion cyfyngedig ac/neu yn gwrthod gosod hysbysebion ar eich safle. Gall gymryd misoedd neu hyd yn oed blynyddoedd i ddenu eich cynulleidfa. Yn hytrach na symud eich safle yn rhydd o un o’r gwasanaethau hyn, gorau oll i chi gychwyn gyda’ch enw parth eich hun a’i gynnal gyda gwe-lety dibynadwy.
Gallwch gofrestru eich enw parth am llai na $10 yn GoDaddy.com. Mae Dreamhost yn we-lety rhesymol o rad ac yn eich galluogi, gydag un cliciad, i lwytho llwyfan blogio WordPress.
Mae ystod eang o offer allweddair traddodiadol ar gael am bris ac yn rhad ac am ddim. Mae gan nifer o’r offer hyn, fel Wordtracker, allweddeiriau traddodiadol y bu pobl yn chwilio amdanynt yn ddiweddar.
Fel blogiwr, rydych nid yn unig yn chwilio am yr hyn fu’n boblogaidd yn draddodiadol, ond hefyd gwybodaeth newydd a chyfoes. Gallwch ddarganfod beth sy’n digwydd ar hyn o bryd gan chwilio drwy Technorati, Google Blog Search, a Google News. Mae gwasanaethau fel Google Trends a Yahoo! Buzz Index yn dangos i chi pa ffynonellau chwilio fu’n boblogaidd yn ystod y diwrnod cynt.
Mae’n hanfodol bwysig eich bod yn defnyddio eich allweddeiriau ar eich tudalen deitl, ar ddechrau’r dudalen os yn bosib. Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio eich allweddeiriau, brawddegau perthnasol ac addasyddion allweddeiriol poblogaidd yng nghynnwys eich tudalen cwpwl o weithiau, ond gyda phwyslais ar ysgrifennu’n naturiol. Sicrhewch bod y cynnwys yn hawdd i’w ddarllen i bawb, gan fod hyn yn bwysicach nag ysgrifennu ar gyfer robotiaid. Os bydd pobl yn mwynhau y cynnwys ac yn gwneud cysylltiadau ag o, mae hyn yn llawer iawn pwysicach na llenwi’r dudalen gyda deunydd sy’n fwy addas i robotiaid.
Mae offer ymchwil allweddeiriol arferol yn dangos addasyddion poblogaidd i chi, ac mae rhai mathau o offer graffeg fel Quintura yn ein gwneud hi’n hawdd gweld geiriau cysylltiol mewn dogfennau gradd uchel.
Pa syniadau sydd ar flaen y gad heddiw? Pwy yw’r rhai sy’n destun siarad yn y byd blogio? Mae TechMeme a TailRank yn amlygu blogiau poblogaidd a bostwyd yn ddiweddar. Mae tracwyr meme sydd â thestun arbennig hefyd ar gael. Lansiodd y World Bank eu BuzzMonitor fel rhaglen feddalwedd rhad ac am ddim gan ganiatau i unrhyw un greu traciwr meme.
Mae YouTube yn rhestru pethau mwyaf poblogaidd heddiw, pethau drafodwyd amlaf heddiw, a hoff fideos heddiw. Mae llawer o’r rhain yn amherthnasol i’ch safle, ond gall unrhyw un o’r rhain eich helpu i ddod o hyd i syniadau sydd eisoes wedi dangos elfen o dystiolaeth gymdeithasol.
Mae The Digg homepage, Del.icio.us Popular list, a StumbleUpon Buzz yn cynnig syniadau poblogaidd diweddar ymysg dalen-nodau cymdeithasol. Mae Pligg yn ei gwneud hi’n hawdd i greu safleoedd newyddion cymdeithasol unigryw a phroffidiol .
Nid oes angen i chi dracio popeth er mwyn bod yn llwyddiannus, dim ond cystadlu o fewn eich marchnad chi. Os darllenwch ddwsin neu ddau o flogiau o fewn eich marchnad, yna traciwch y cysylltiadau sydd ynghlwm â nhw a pham y mae pobl yn siarad amdanynt. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i chi adnabod a chreu syniadau a chynnwys sy’n haeddu sylw.
Mae hi’n hawdd tanysgrifio i flogiau cystadleuol yn eich marchnad drwy ddefnyddio feed readers fel iGoogle, Google Reader, neu Bloglines. Gallwch edrych ar gysylltiadau sy’n pwyntio at flogiau cystadleuol drwy ddefnyddio Technorati neu Google Blogsearch.
Defnyddiwch y rhestrau poblogaidd a nodir uchod i ddarganfod pam fod syniadau yn ymledu ymysg y marchnadoedd cysylltiol ac i ddarganfod pa syniadau a fu’n llwyddiannus yn y gorffennol. O wneud yr ymchwil hwn, fe ddylai fod yn hawdd cysylltu’r syniadau hyn â’ch marchnad chi i greu syniadau anhygoel. Mae unrhyw fath o gynnwys y deuwch ar ei draws (ar-lein, drwy ddarllen, llyfrau, lluniau, cylchgronnau, cynadleddau, profiad personol ayyb) oll yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth. Cariwch gamera a phapur a phensal bob amser.
Gallwch sicrhau eich bod yn cystadlu â’r Jonesiaid yn y byd blogio drwy ddarllen ProBlogger and Performancing Darren Rowse.
Mewn cyfweliad, dyma ddywedodd Cory Doctorow, sef blogiwr yn Boing Boing ac awdur ffuglen wyddonol, yngl?n ag ysgrifennu penawdau:
Ysgrifennwch benawdau fel y gwna awdur gwasanaeth gwifren.
Mae penawdau disgrifiadol yn eich helpu i roi cyd-destun i’ch stori a sicrhau y bydd pobl yn fwy tebygol o ymweld â’ch safle wrth iddo ymddangos ar y canlyniadau chwilio.
Gallwch hefyd geisio cyfleu emosiwn yn eich penawdau drwy ofyn cwestiwn yn y penawd neu addo datrys problem. Yn ei Magnetic Headlines series mae Brian Clark yn cynnig nifer o fformiwlas llwyddiannus ar gyfer penawdau tudalennau.
Hyd at fis Medi 2007, hafan fy ngwefan oedd y pwnc mwyaf diweddar i gael ei bostio ar fy mlog. Er bod hyn yn eich helpu i hyrwyddo pethau newydd a bostwyd ar y blog, nid yw’n apelio i bobl sy’n ymweld am y tro cyntaf. Os ydych yn creu blog poblogaidd, gwnewch yn siwr bod eich hafan yn apelgar i bobl newydd i’ch maes. Mae’n bwysig i chi eu harwain drwy’r dull o ddysgu, dangos iddynt lle i gychwyn ac amlygu’r gorau o’ch cynnwys. Os bydd eich safle’n tyfu i fod yn fusnes, sicrhewch eich bod yn ailfuddsoddi mewn offer, ychwanegwch fforymau a nodweddion rhyngweithiol eraill a fydd yn annog pobl i ddychwelyd at eich safle dro ar ôl tro.
Mae nifer o systemau blogio yn eich galluogi i amlygu’r pethau mwyaf poblogaidd a bostwyd. Wrth amlygu yn y fath fodd, gall ymwelwyr â’ch safle ddarganfod cynnwys gorau eich safle yn llawer iawn haws ac mae’r pethau gorau a bostwyd yn cael gwell chwarae teg.
Mae nifer o’r bobl sy’n ymweld â’ch safle yno am y tro cyntaf. Mae cyfeirio’r bobl hyn at hen erthyglau yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o’ch cyfeirnodau heb eu gorfodi i ysgrifennu’r un peth drosodd a throsodd. Os byddwch yn crynhoi data a’i yrru i safleoedd eraill neu os bydd safleoedd spam yn dwyn eich cynnwys, yna gall cyfeirio at hen ddata gynyddu’r posibilrwydd y byddwch yn cael cysylltiadau rhad ac am ddim, a fydd o ganlyniad yn codi gradd eich safle.
Mae Michael Gray yn cynnig y cyngor optimeiddiad WordPress isod yn y fideo canlynol:
Rhowch unrhyw gynnwys mewn un categori yn unig.
Defnyddiwch y nodwedd WordPress yn fwyfwy i ddangos rhan fechan yn unig o’r hyn a bostwyd ar eich tudalennau categoriau.
Defnyddiwch robots.txt i flocio archif sydd wedi dyddio ac unrhyw rannau swnllyd/diangen o’ch safle.
Mae Joost de Valk yn cynnig mwy o gyngor ar optimeiddiad WordPress yn ei WordPress SEO guide.
Rhybudd: Os nad ydych wedi arfer defnyddio robots.txt, yna sicrhewch nad ydych yn cael gwared o erthyglau sydd wedi dyddio yn yr URL os yw eich tudalennau postio unigol yn defnyddio dyddiadau yn yr URL. Gan gymryd eich bod yn cadw URLiau post slug yn fyw ac yn defnyddio categoriau, gall ffeil robots.txt ar gyfer blog WordPress edrych yn debyg i hyn:
User-agent: *
Disallow: /*p=
Disallow: /*q=
Disallow: /*trackback
Disallow: /*feed Disallow: /*wp-login
Cynhyrchwch gategoriau sy’n cydfynd yn agos ag allweddeiriau o’r maes priodol. Trwy wneud hyn byddwch yn creu strwythur i’r safle fydd yn helpu i raddio tudalennau categori yn uchel mewn perthynas â’r allweddeiriau ynddynt. Os mai colli pwysau yw testun eich safle, yna bydd creu categoriau yngl?n â chadw’n heini, colli pwysau, tabledi colli pwysau a deunydd colli pwysau yn gamau call i’w cymryd.
Os byddwch yn defnyddio categoriau a thudalennau tag, peidiwch â gadael iddynt orgyffwrdd. Er enghraifft, camgymeriad fyddai creu tudalen gategori o’r enw ‘adeilad cyswllt’ ac yna tagio nifer o’ch tudalennau gyda ‘adeilad tag’ fel cyswllt. Dylech hefyd gyfyngu’r nifer o gategoriau i ddwsin neu ddau ddwsin ar y mwyaf yn hytrach na chael cannoedd o gategoriau a thagiau gydag ond ychydig o bethau a bostwyd ym mhob un.
Mae nifer o blogiau yn cysylltu â’r hyn a bostwyd cynt neu wedyn, ar bob tudalen. Mae’r cysylltiadau hyn yn ddefnyddiol iawn ac yn helpu’r peiriannau chwilio dreiddio’n ddwfn trwy eich gwefan. Mae rhai plugins WordPress yn rhestru post cysylltiol o dan y post presennol, sy’n helpu darllenwyr ddod o hyd i ddeunydd cysylltiol rhag ofn iddynt gyrraedd y dudalen anghywir.
Mae nifer o systemau rheolaeth cynnwys blog yn rhoi blaenoriaeth i enw’r safle uwchben enw’r post yn nheitl tudalen y postiau blog unigol. Yn ddelfrydol dylid rhoi’r wybodaeth fwyaf perthnasol yn gyntaf ar deitl eich tudalen. Mae nifer o plugins WordPress sy’n ei gwneud hi’n hawdd i chi newid strwythur teitlau eich tudalennau. Dyma ddau poblogaidd, sef Pecyn cyflawn SEO a Tag Teitl SEO.
Gall rhaglen we ddadansoddeg ddangos i chi sut mae:
Os ydych yn gwybod pa fath o bobl sy’n cysylltu â chi a PHAM maent yn gwneud hynny, yna mae’n hawdd iawn creu deunydd cysylltiol y byddant yn ei fwynhau. Os ydych yn gwybod pa ffactorau sy’n creu gradd dda i’ch safle, yna byddwch yn gwybod pa bynciau sy’n creu enw da i’ch safle a pha bethau sy’n debygol o raddio eich safle yn hawdd. Mae rhai blogwyr yn newid tudalennau prysur drwy ychwanegu addasyddion allweddeiriol i gynnwys y dudalen, sy’n eu helpu i gael mwy o brysurdeb drwy raddio am frawddegau allweddeiriol ychwanegol.
Mae Dadansoddeg Google yn rhad ac am ddim. Rwy’n hoff hefyd o Mint, sy’n costio un ffi cofrestru o $30 fesul safle. Mae Performancing a MyBlogLog yn cynnig rhaglen dadansoddeg sydd wedi ei chynllunio ar gyfer blogwyr.
Mae nifer o bobl yn tueddu i boeni gormod ac mae hyn yn effeithio eu gwaith, ond mae’r mwyafrif o bobl llwyddiannus yn cael eu harwain gan reddf yn hytrach nag ofn.
Mae blogwyr moesol hunanhonedig yn bod yn ddau wynebog yn eu gwaith marchnata. Yn y viral video tips blog post, mae Michael Arrington wedi nodi cymaint yr oedd o wedi ei gythruddo gan y blog hwn. Er hyn, cyhoeddodd o’r blog ar ei wefan ei hun gan wneud llawer iawn o arian allan o’r fenter.
Os ydych yn ddibrofiad mewn marchnata ar y we, darllenwch waith Seth Godin, Purple Cow er mwyn i chi ddeall sut i greu syniadau anhygoel. Cyfeiriadau yn unig yw cysylltiadau. Os yw eich gwaith yn hynod, yna fe ddaw’r cysylltiadau ond nid heb ychydig o farchnata gwthiol yn gyntaf!
Spam yw’r rhan helaeth o wybodaeth newydd, neu’n wybodaeth wedi cael ei ailgylchu. Wrth i fwy o spam gael ei greu gan ddefnyddio offer soffistigedig a chyflymach, mae darllenwyr yn llwyddo yn well ac yn gynt i ddadansoddi gwybodaeth safonol ar amrantiad.
Gall ddefnyddio dyluniad WordPress safonol ddiflasu darllenwyr. Os y defnyddiwch gynllun deniadol neu brynu ddyluniad proffesiynol unigryw sy’n dangos eich bod wedi mynd i drafferth ac eich bod yn fodlon buddsoddi yn eich safle, yna byddwch ar eich ennill. Gall greu cynllun a dyluniad gynyddu hygrededd.
Mae angen sicrhau bod eich manylion cyswlllt a busnes yn hawdd i’w canfod, ac mae cyhoeddi ar about page yn unigryw ac yn diddorol gan restru eich nodweddion, a sicrhau gwell ymddiriedaeth yn eich gwefan.
Mae’n well gennym farchnata negeseuon sy’n cydfynd â’n hoff bethau a’n diddordebau. Y peth mwyaf priodol yw siarad am berson yn benodol. Mae nifer o flogwyr yn cadw golwg ar bwy sy’n cysylltu â nhw a phwy sy’n darllen y postiau hyn.
Gall cysylltu â gwefannau defnyddiol gynnig y ffordd rataf o farchnata. Peidiwch â dim ond cysylltu gyda blog arall a’i flocio, gwnewch yn siwr eich bod yn ychwanegu gwerth drwy egluro pam yr ydych yn credu eu bod yn gywir neu yn anghywir. Efallai y dylech ofyn am adborth gan rhywun yr ydych yn ei barchu neu ofyn iddyn nhw am gyfweliad.
Mae peiriannau chwilio yn trin cysylltiadau fel arwydd o ymddiriedaeth. Os gallwch ei fforddio, rwy’n argymell rhestru blogiau newydd mewn cyfeirlyfrau cyffredinol o awdurdod, cyfeirlyfrau arbenigol a chyfeirlyfrau blog. Dyma ychydig o wybodaeth gefndirol ar roi gwybodaeth i gyfeirlyfrau cyffredinol, ac yn ddiweddar mae Loren Baker wedi postio gwybodaeth am y cyfeirlyfrau blog gorau.
Mae amlygu eich cynnyrch yn arwain at amlygu pellach. Gall wario ychydig o ddoleri ar farchnata heddiw olygu y bydd eich blog yn boblogaidd yn gynt na’r disgwyl.
Ar Ebrill 15, 2007, cyhoeddodd y gwyddonydd cymdeithasol, Duncan J. Watts erthygl yn y New York Times yn dwyn y teitl Is Justin Timberlake a Product of Cumulative Advantage? Yn yr erthygl amlygodd Duncan natur gymdeithasol ein penderfyniadau:
Anaml iawn y mae pobl yn gwneud penderfyniadau yn gwbwl annibynnol – yn bennaf oherwydd bod y byd yn cynnwys cymaint o ddewisiadau fel na yw’n bosib i ni ddarganfod yr hyn sydd ei angen arnom ar ein pennau ein hunain, ac rydym yn ansicr o’r hyn yr ydym ei wir angen p’run bynnag. Ymhellach, nid y profiad “gorau” yw’r hyn yr hoffem ei gael ond yn hytrach yr un pethau â phobl eraill ac felly y profiad o rannu.
O ganlyniad i’r ffordd meddwl-gr?p hwn o wneud penderfyniadau, mae llawer i beth yn parhau i fod yn boblogaidd am y rheswm syml eu bod yn boblogaidd eisoes.
Mae pobl yn darllen blogiau gan fod yn well ganddynt eu darllen yn hytrach na darllen llyfr cyfan. Mae cynnwys lluniau a fideo yn eich postiau blog gan ddefnyddio pwyntiau bwled er mwyn rhannu’r paragraffau, yn ei gwneud hi’n haws darllen a deall eich safle.
Mae cynnal cystadlaethau rhyngweithiol a rhoi gwobrau yn rhai o’r ffyrdd hawsaf i gael eraill i siarad am eich gwefan, ac mae trafod yn allweddol ar gyfer budd y dyfodol. Fel y dywed Cory Doctorow ar ddyfodol y cyfryngau:
Heddiw, mae’r We yn cynnig amrywiaeth anhygoel o ddewisiadau. Mae pob math o adloniant ar gael ar gliciad. Mae cost chwilio a dod o hyd i artist cerdd neu lyfrau neu ffilmiau sydd mor ddiddorol â’ch un chi yn dod yn rhatach yn bob dydd, diolch i systemau argymell, peiriannau chwilio a nifer helaeth o safleoedd a hyrwyddir gan gefnogwyr, fel blogs a MySpaces. Mae eraill yr un mor gelfgar â chi, yn rhywle, ac os ydych am gystadlu â nhw yna rydych angen rhywbeth mwy na charisma a chelfgarwch.
Mae angen i chi fedru cynnal sgwrs. Ym mhob maes o waith celf fe welwn dystiolaeth o lwyddiant ymysg artistiaid sy’n llwyddo i ‘siarad’ efo’u cynulleidfa. Cadwodd JMS Babylon 5 yn fyw drwy gadw mewn cysylltiad cyson â grwpiau newyddion cefnogwyr. Adeiladodd Neil Gaiman ei blog drwy gyfathrebu gyda miloedd o ddarllenwyr ar yr un pryd. Mae nifer o fandiau indie wedi cael llwyddiant drwy eu byrddau neges a rhestrau post ac felly hefyd dogfenwyr annibynnol fel Jason Scott, awduron comedi fel Warren Ellis gyda’i LiveJournal, blog a rhestrau post ayyb.
Mae rhoi barn wreiddiol a chyson a llais cryf yn galluogi eraill sy’n rhannu eich barn i ymddiried yn eich neges a’i lleisio ymhellach. Mae’r rhan fwyaf o flogiau gwleidyddol poblogaidd yn rhoi barn bendant.
Os yw eich gwefan, o ran blaenoriaeth, yn rhoi AdSense yn bwysicach na chynnwys, yna bydd hi’n amhosib creu momentwm a chael cyfran gan arweinwyr y gallwch ymddiried ynddynt yn eich marchnad.
Os llwyddwch i gael nifer fawr o bobl i ddarllen eich gwefan ac ymddiried ynddi, yna bydd Google yn dibynnu mwy arnoch chi nag i’r gwrthwyneb, sy’n ei gwneud hi’n anoddach i Google gosbi eich gwefan rhag iddynt gael cyhoeddusrwydd negyddol yn sgil hynny.
Designed, Built and Optimised by Joe the SEO
© Tribe SEO is a registered UK Company (# 07455058). Privacy Policy and Terms.
This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.